|
1,2,3,4,5; 1,((2),3,4).
Dy lwybrau di y'nt hyfryd iawn,
Dy ffyrdd y'nt lawn hyfrydwch;
Nag amlder ŷd
neu win, fy Nuw,
Melusach yw dy heddwch.
I ni oedd gaeth
rho'ist rydd-did bra',
Daeth Jubil gwaredigion;
Rhwygasom len trwy
rinwedd gwaed,
Mae'n dwylo a'n traed yn rhyddion.
Mae'n traed yn awr ar
wddf y ddraig,
Trwy Had y wraig
sy'n eiriol;
Awn, gan fod Iesu ar ein rhan,
I'r lan, i'r lan yn wrol.
Yn mlaen yr awn, trwy gyflawn ffydd,
Tra fyddo'r dydd yn para,
Pob un ag sydd â'i sicr sail
Yn haeddiant yr ail Adda.
Rho'ist in', O Dduw, dy nerthol ras,
I gario'r maes hyd yma;
Ebenezer ni gongcwerodd,
Hyd nefoedd, Aleluia.
- - - - -
Dy lwybrau di sy'n hyfryd iawn,
Dy ffyrdd sy'n llawn hyfrydwch,
Nac amlder ŷd,
neu wîn fy Nuw,
Melusach yw dy heddwch.
I ni oedd gaeth
rho'st rydd-did bra,
Daeth Jubil gwaredigion;
Rhwygasom len trwy
rinwedd gwaed,
Mae'n dwylaw a'n traed yn rhyddion.
Mae'n traed yn awr ar
wddf y ddraig
Trwy hâd y wraig
sy'n eiriol;
Awn gan fod Iesu ar ein rhan
I'r lan, i'r lan yn wrol.
Y'mlaen heb ffoi trwy gyflawn ffydd,
Tra fyddo'r dydd yn para:
Pob un ac sydd a'i sicr sail
Yn haeddiant yr ail Adda.
William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Tydi ein porth ar dir y byw Ymddyrcha Dduw y nef uwchlaw |
Thy paths they are very delightful,
Thy ways they are full of delight;
Than the abundance of grain
or wine, my God,
Sweeter is thy peace.
To us who were captive
thou gavest ample freedom,
The Jubilee of the delivered came;
We rent the curtain through
the merit of blood,
Our hands and our feet are free.
Our feet are now on
the throat of the dragon,
Through the Seed of the woman
who is interceding;
Let us go, since Jesus is on our side,
Up, up bravely!
Forward we will go, through full faith,
While ever the day endures,
Every one who has his sure foundation
In the merit of the second Adam.
Thou gavest us, O God, thy strong grace,
To carry the field thus far;
Our Ebenezer conquered,
As far as heaven, Hallelujah!
- - - - -
Thy paths are very delightful,
Thy ways are full of delight;
Than the abundance of grain,
or wine, my God,
Sweeter is thy peace.
To us who were captive
thou gavest ample freedom,
The Jubilee of the delivered came;
We rent the curtain through
the merit of blood,
Our hands and our feet are free.
Our feet are now on
the throat of the dragon,
Through the seed of the woman
who is interceding;
Let us go, since Jesus is on our side,
Up, up bravely.
Forward without fleeing through full faith,
While ever the day endures:
Every one who has his sure foundation
In the merit of the second Adam.
tr. 2016,20 Richard B Gillion
|
|